Gwasanaethau Harddwch

Lefel newydd o ymlacio

Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu profiad sy’n mynd y tu hwnt i ymweliad arferol â salon harddwch. Gydag amrywiaeth o wasanaethau rhagorol, mae ein tîm cynnes, cyfeillgar a phroffesiynol yn cynnig y triniaethau gorau sydd ar gael wrth i chi ymlacio yn ein gofod deniadol, ymlaciol. Yn y byd prysur sydd ohoni, rydyn ni’n deall pwysigrwydd cael amser i chi’ch hun a manteision sesiwn faldod i dawelu’r meddwl ac ymlacio’r corff.

Beth bynnag fo’ch anghenion harddwch – triniaeth fach gyflym i’r dwylo neu’r traed, cwyro, arlliwio, siapio, triniaeth ddofn i’r wyneb neu dylino lleddfol, byddwn ni’n sicrhau bod eich amser chi gyda ni yn brofiad gwerth chweil a bythgofiadwy. Gan ddefnyddio brandiau blaenllaw’r diwydiant fel Elemis, Dermalogica ac Opi, rydyn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd gwasanaeth o safon drwy gydol eich ymweliad, gan mai’r cyfuniad hwnnw sy’n sicrhau bod ein cwsmeriaid ni’n dod yn ôl. Dewiswch o blith ein triniaethau harddwch niferus isod a threfnwch apwyntiad heddiw.

Amseroedd Agor

Dydd Llun
9am – 4pm

Dydd Mawrth
AR GAU

Dydd Mercher
9am – 4pm

Dydd Iau
9am – 4pm

Dydd Gwener
9am – 4pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Amseroedd Agor

Dydd Llun
9am – 4pm

Dydd Mawrth
AR GAU

Dydd Mercher
9am – 4pm

Dydd Iau
9am – 4pm

Dydd Gwener
9am – 4pm

Dydd Sadwrn
AR GAU

Dydd Sul
AR GAU

Methu Dod o Hyd i'r Hyn Rydych Chi'n Chwilio Amdano?

Dyma Sut y Gallwch Chi Gysylltu

Ffoniwch

01978 267650

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

EIN CREADIGAETHAU A'N CYNNYRCH